Gweddi a Myfyrdod Old

I weld y dudalen hon yn Saesneg, cliciwch yma.

“Dw i wedi dod i roi bywyd i bobl, a hwnnw’n fywyd ar ei orau.”

Iesu – Ioan 10:10

Ar y dudalen hon fe welwch rai Darlleniadau o’r Beibl, gweddïau a myfyrdod yn seiliedig ar y Darlleniadau o’r Beibl. Yn aml, mae’r rhain o ddydd Sul diweddar yn un o’n heglwysi, i’r rhai na allant ddod ar y diwrnod, ond hefyd i roi blas i chi o’r hyn sy’n digwydd yn ein haddoliad a’n haddysgu ar y Suliau.


Dydd Sul, 1af Mehefin 2025 – Y Sul ar ôl y Dyrchafael

O Dduw, Brenin y gogoniant, dyrchefaist dy unig Fab Iesu Grist â buddugoliaeth fawr i’th deyrnas yn y nefoedd: erfyniwn arnat beidio â’n gadael yn ddigysur, ond anfon dy Ysbryd Glân i’n nerthu ni a’n dyrchafu i’r fan lle’r aeth ein Hiachawdwr Crist o’n blaen, yr hwn sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth.

Y Colect ar gyfer y Sul ar ôl y Dyrchafael

Rhyw dro pan oeddem ar ein ffordd i’r lle gweddi, daeth rhyw gaethferch a chanddi ysbryd dewiniaeth i’n cyfarfod, un oedd yn dwyn elw mawr i’w meistri trwy ddweud ffortiwn. Dilynodd hon Paul a ninnau, a gweiddi: “Gweision y Duw Goruchaf yw’r dynion hyn, ac y maent yn cyhoeddi i chwi ffordd iachawdwriaeth.” Gwnaeth hyn am ddyddiau lawer. Blinodd Paul arni, a throes ar yr ysbryd a dweud, “‘Rwy’n gorchymyn i ti, yn enw Iesu Grist, ddod allan ohoni.” Ac allan y daeth, y munud hwnnw.

Pan welodd ei meistri hi fod eu gobaith am elw wedi diflannu, daliasant Paul a Silas, a’u llusgo i’r farchnadfa o flaen yr awdurdodau, ac wedi dod â hwy gerbron yr ynadon, meddent, “Y mae’r dynion yma’n cythryblu ein dinas ni; Iddewon ydynt, ac y maent yn cyhoeddi defodau nad yw gyfreithlon i ni, sy’n Rhufeinwyr, eu derbyn na’u harfer.” Yna ymunodd y dyrfa yn yr ymosod arnynt. Rhwygodd yr ynadon y dillad oddi amdanynt, a gorchymyn eu curo â ffyn. Ac wedi rhoi curfa dost iddynt bwriasant hwy i garchar, gan rybuddio ceidwad y carchar i’w cadw yn ddiogel. Gan iddo gael y fath rybudd, bwriodd yntau hwy i’r carchar mewnol, a rhwymo’u traed yn y cyffion.

Tua hanner nos, yr oedd Paul a Silas yn gweddïo ac yn canu mawl i Dduw, a’r carcharorion yn gwrando arnynt. Ac yn sydyn bu daeargryn mawr, nes siglo seiliau’r carchar. Agorwyd yr holl ddrysau ar unwaith, a datodwyd rhwymau pawb. Deffrodd ceidwad y carchar, a phan welodd ddrysau’r carchar yn agored, tynnodd ei gleddyf ac yr oedd ar fin ei ladd ei hun, gan dybio fod ei garcharorion wedi dianc. Ond gwaeddodd Paul yn uchel, “Paid â gwneud dim niwed i ti dy hun; yr ydym yma i gyd.” Galwodd ef am oleuadau, a rhuthrodd i mewn; daeth cryndod arno, a syrthiodd o flaen Paul a Silas. Yna daeth â hwy allan a dweud, “Foneddigion, beth sy raid imi ei wneud i gael fy achub?” Dywedasant hwythau, “Cred yn yr Arglwydd Iesu, ac fe gei dy achub, ti a’th deulu.” A thraethasant air yr Arglwydd wrtho ef ac wrth bawb oedd yn ei dŷ. Er ei bod yn hwyr y nos, aeth ef â hwy a golchi eu briwiau; ac yn union wedyn fe’i bedyddiwyd ef a phawb o’i deulu. Yna, wedi dod â hwy i’w dŷ, gosododd bryd o fwyd o’u blaen, a gorfoleddodd gyda’i holl deulu am ei fod wedi credu yn Nuw.

Actau 16. 16-34

Myfyrdodau gan y Canon Tim Hewitt ar y ffyrdd ein bod ni’n defnyddio’r gair ‘achub’

Yn seiliedig ar y darlleniad o Actau

Dydy’r gair ‘gwefan’ ddim yn cael ei ffeindio yn y geiriadur Cymraeg sydd gyda fi o’r wyth degau nac yn y geiriadur Saesneg sydd gyda fi o ddechreuad y naw degau. Gyda phethau newydd yn cyrraedd ar y gorwel, mae geiriau newydd yn cael eu datblygu er mwyn disgrifio rhywbeth sydd yn newydd, neu mae geiriau sydd yn bodoli eisoes yn mabwysiadu ystyrion newydd a gall geiriau olygu nifer o wahanol bethau a sut dyn ni’n defnyddio’r geiriau hyn egluro beth maen nhw’n eu golygu.

Dyna beth sydd yn digwydd yn ein darlleniad heddiw o Actau’r Apostolion lle bod y gair ‘achub’ yn cael ei defnyddio er mwyn golygu gwahanol bethau. Mae achub Paul a Silas o’r carchar; mae achub y carcharorion o ddianc, a felly, dyn ni’n defnyddio’r un gair er mwyn disgrifio dau beth sydd yn gyferbyn i’w gilydd. Yn ei ofn, mae ceidwad y carchar eisiau wybod sut mae achub ei fywyd yn wynebu cosb am fethu wneud ei waith, ond mae Sant Paul yn siarad am iachawdwriaeth ysbrydol a chael ei achub o golli perthynas cyfiawn gyda Duw. Yma, mae ystyr y gair achub yn cael ei ddefnyddio er mwyn gosod goleuni ar ystyr arall i’r gair am rywbeth arall. Felly, yn ein stori am Paul a Silas yn cael eu carcharu, mae Sant Luc yn defnyddio ofn ceidwad y carchar am ei fywyd ei hun er mwyn dweud rhywbeth am yr ofn sydd gyda phobl am beth sydd yn digwydd yn eu bywydau’n gyffredinol. Dyna pam mae manylion sydd yn edrych yn ddieithr iawn i ni yn y stori.

Roedd ceidwad y carchar wedi bod ar gwsg pan agorodd y drysau i gyd yn y carchar. Ar gwsg ar y gwaith, dyna’r problem, a mae fe’n gwybod y caiff ef ei gosbi am hwn gan golli ei fywyd ei hun. Os oedd ef wedi bod yn effro, gallai fe wedi sicrhau bod mynedfa’r carchar dan lo, a fel canlyniad, beth bynnag digwyddodd y tu fewn i’r charchar, byddai neb yn gallu dianc allan o’r charchar. Er hynny, wedi bod ar gwsg ar y gwaith, mae fe’n wynebu cael ei ddienyddio nawr. Efallai byddai’r Rhufeiniaid yn defnyddio cosbi ceidwad y carchar fel gwers i eraill, ac efallai byddai ceidwad y carchar yn wynebu cael ei groeshoelio, ond dim sicrwydd am hwn. Pwy a gafodd ei gondemnio gan y Rhufeiniad fel troseddwr a chafodd ei groeshoelio? Iesu, wrth gwrs. Efallai bod Sant Luc yn cymharu ac yn cyferbynnu beth ddigwyddodd i Iesu gyda Paul a Silas a cheidwad y carchar yma. Hefyd, os ydy’r stori yma’n dweud rhywbeth yn gyffredin am ein bywydau, does dim amheuaeth bod ar gwsg ar y gwaith yn rywbeth sydd yn digwydd wrth i ni feddwl am ein hagweddau tuag at fywyd yn gyffredinol. Gyda rhai o bethau, mae amseroedd pan dyn ni ddim wedi cadw ein llygaid a agor i ni weld beth sydd yn digwydd o’n cwmpas ni. Ydyn ni wedi bod yn debyg i geidwad y carchar yn y gorffennol, neu ydyn ni’n debyg iddo fe gyda rhai o bethau yn ein bywydau ni? Pan mae rhai o bethau annifyr yn digwydd i ni, ydyn nhw’n waeth achos roedden ni ar gwsg am bosibilrwydd eu digwydd?

Wedi dweud hyn i gyd, gall pethau annisgwyl ddigwydd yn ein bywydau heb rybudd, wrth gwrs. Oedd ceidwad y carchar yn disgwyl daeargryn a agorodd pob drws, yn agor y ffordd i bob carcharor ddianc? Nag oedd. Oedd Paul a Silas yn disgwyl cael eu rhyddhau heb unryw un yn datod eu rhwymau? Nag oeddent. Dydy pob daeargryn ddim yn dod â rhyddid i ni, ac yn fwy na thebyg, y cyferbyn. Gall gwahanol bethau siglo seiliau ein bywydau ni, ac yn debyg i geidwad y carchar, yn sydyn, mae ein bywydau ni’n llawn ofn am beth fydd yn digwydd i ni. Yn debyg i geidwad y carchar, teimlwn does dim opsiynau da gyda ni. Yn y stori, mae ychydig o fanylion sydd yn ceisio dweud rhywbeth am ein hagweddau’n gyffredinol pan mae daeargrynfâu bywyd yn digwydd i ni. Pe basen ni’n meddwl bod esiampl Paul a Silas yw’r peth i ni ddilyn, yn wastad yn gweddïo, yn wastad yn moli Duw, yn wastad yn sicrhau bod pob un arall yn gallu gweld beth yr ydym yn ein gwneud, dw i’n credu ein bod ni wedi colli pwynt y stori yma.

Er oedd Paul a Silas yn garcharorion, roedd rhyddid gyda nhw ymateb iddynt fod yn garcharorion. Roedd dewisiadau gyda nhw mewn sefyllfa a edrychodd yn debyg i ddim dewisiadau gyda nhw. Dyna’r gwirionedd fod Sant Luc yn ceisio trosglwyddo i ni: Yn wastad mae dewis gyda ni achos bod rhyddid mewnol gyda ni. Er bod ein cyrff wedi cael ei garcharu gan wahanol rwymau, mae rhyddid gyda’n meddyliau a’n calonnau o hyd. Dyna pam mae Sant Luc yn disgrifio sut oedd yr carcharorion i gyd wedi cael eu datod allan o’u rhwymau, ond doedd neb wedi ceisio dianc. Roedd dewis gyda nhw wneud rhywbeth neu beidio. Dyn ni ddim yn gweld dewis peidio â gwneud rhywbeth fel gweithred yn ei hun. Ymhellach, yn aml gwelwn gwneud dim byd fel methiant, ond gall dewis gwneud dim byd yn weithred positif ambell waith. Sut welwn y stori hon? Sut ddarllenwn y stori? Ydyn ni’n ffeindio’r syniad a dewisodd neb ddianc yn anodd i gredu? Ydyn ni’n ffeindio’r manylyn y cafodd pob drws a rhwym eu hagor gan y ddaeargryn yn anodd i ni gredu? Oes temtasiwn i ni ddiystyru’r stori fel un a oedd ddim yn wir? Er mwyn deall y stori’n gywir, mae rhaid i ni gofio yr ysgrifennodd pobl y Beibl straeon mewn modd a oedd yn gwbl wahanol i’n dealltwriaeth heddiw.

I ni heddiw, gwelwn ffeithiau a gwirioneddau fel dau beth sydd yn wahanol oherwydd eu natur. I rywbeth fod yn wir, mae rhaid i rywbeth fod yn ffaith. Er hynny, defnyddiodd pobl y Beibl fanylion – sydd yn cael eu hystyried gynnon ni fel ffeithiau – er mwyn mynegi gwirioneddau. Mae Sant Luc yn adrodd stori gyda manylion am bob rhwym yn cael ei ddatod er mwyn dweud rhywbeth am wirionedd rhyddid. Dychwelwn at beth a soniais ar y dechreuad: Y modd ein bod ni’n defnyddio geiriau.

Y dyn a ofnodd gael ei groeshoelio oherwydd ei ddiffygion wedi cael ei achub gan y Dyn a gafodd ei groeshoelio drosom i gyd, sef, Iesu Grist. Mae’r stori’n defnyddio beth sydd yn bwysig i ni yn ystod y bywyd hwn fel rheswm i ni fyfyrio ar bethau yn ein bywydau sydd ddim yn derbyn ein hamser achos eu bod nhw’n anweledig neu achos ein bod ni ddim yn cael achos i ni feddwl amdanynt yn aml. Mae’r stori am geidwad y carchar yn cynorthwyo i ni edrych ar ein bywydau ac i ni weld os oes pethau ynddynt sydd achosi i ni edrych ymhellach tuag at ein cred ni yn y bywyd tragwyddol a sut mae’r gred hon yn cyfoethogi ein bywydau yn y bywyd hwn.

Gweddïau

Yn nerth yr Ysbryd ac mewn undeb â Christ, gweddïwn ar y Tad.

Hollalluog Dduw, ein Tad nefol, addewaist trwy dy Fab Iesu Grist wrando arnom pan weddïwn mewn ffydd.

Nertha John ein Hesgob, a’th holl Eglwys yng ngwasanaeth Crist. Yn y Cymundeb Anglicanaidd, gweddïwn dros Eglwys Anglicanaidd Korea. Gweddïwn dros Gristnogion yn Ngogledd Korea. Yn ein Hesgobaeth ni, gweddïwn dros y Darllenwr Lleyg ym Mro Dwyrain Gwernyfed Christine Gould. Boed i’r rhai hynny sy’n cyffesu dy enw fod yn un yn dy wirionedd, cyd-fyw yn dy gariad, a datgelu dy ogoniant yn y byd.

Arglwydd, yn dy drugaredd,

Gwrando ein gweddi.

Bendithia ac arwain Charles ein Brenin; dyro ddoethineb i bawb mewn awdurdod; a chyfarwydda’r genedl hon a phob cenedl arall yn ffyrdd cyfiawnder a heddwch. Gweddïwn dros heddwch a rhyddid am bobl Wcrain. Gweddïwn dros bobl ar draws y byd sydd yn newynu ac yn ddigartref oherwydd rhyfel. Boed inni anrhydeddu ein gilydd a cheisio lles pawb.

Arglwydd, yn dy drugaredd,

Gwrando ein gweddi.

Gweddïwn dros garcharorion a phawb sydd yn gofalu amdanynt. Gweddïwn dros bawb sydd yn edrych ar y byd gyda chalongaledwch. Gweddïwn dros bawb sydd yn byw eu bywydau ymhell o’r bobl o’u cwmpas nhw. Gweddïwn dros y rhai sydd yn teimlo’n annheilwng iddynt fod yn agos i ti neu bobl eraill.

Arglwydd, yn dy drugaredd,

Gwrando ein gweddi.

Cysura ac iachâ bawb sy’n dioddef, o ran corff, meddwl neu ysbryd; Rho iddynt ddewrder a gobaith yn eu trafferthion a dyro iddynt lawenydd dy iachawdwriaeth.

Arglwydd, yn dy drugaredd,

Gwrando ein gweddi.

Dyro ras i ni, i’n teuluoedd a’n ffrindiau ac i bawb o’n cymdogion. Boed inni wasanaethu Crist wrth wasanaethu ein gilydd, a charu fel y mae ef yn ein caru ni.

Arglwydd, yn dy drugaredd,

Gwrando ein gweddi.

Gwrando ni wrth inni gofio’r rhai hynny a fu farw yn ffydd Crist. Boed i’r rhai sydd yn marw ac yn ofnus yn eu horiau olaf ymddiried ynot. Yn ôl dy addewidion, caniatâ i ni, gyda hwy, ran yn dy deyrnas dragwyddol.

Arglwydd, yn dy drugaredd,

Gwrando ein gweddi.

Gan ymlawenhau yng nghymundeb yr holl saint, cyflwynwn ein hunain a’r greadigaeth gyfan i’th gariad di-ffael.

Dad trugarog, derbyn y gweddïau hyn er mwyn dy Fab, ein Gwaredwr Iesu Grist. Amen.

Gweddi derfynol

Rhoddwr Tragwyddol cariad a nerth, anfonodd dy Fab Iesu Grist ni i’r holl fyd i bregethu efengyl ei deyrnas: cadarnhâ ni yn y genhadaeth hon, a chynorthwya ni i fyw y newyddion da a gyhoeddwn; trwy Iesu Grist ein Harglwydd.