I weld fersiwn Saesneg o’r dudalen hon, cliciwch yma.
Dduw trugarog, darperaist i’r rhai sy’n dy garu y fath bethau daionus sydd uwchlaw ein deall: tywallt yn ein calonnau’r fath gariad tuag atat, fel y bo i ni, sy’n dy garu uwchlaw pob dim, allu derbyn dy addewidion, sy’n fwy rhagorol na dim y gallwn ni ei ddeisyfu; trwy Iesu Grist ein Harglwydd, sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi, yn undod yr Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth.
Y Colect ar gyfer y Chweched Sul wedi’r Drindod
Yr oedd ef yn gweddïo mewn rhyw fan, ac wedi iddo orffen dywedodd un o’i ddisgyblion wrtho, “Arglwydd, dysg i ni weddïo, fel y dysgodd Ioan yntau i’w ddisgyblion ef.” Ac meddai wrthynt, “Pan weddïwch, dywedwch: ‘Dad, sancteiddier dy enw; deled dy deyrnas; dyro inni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol; a maddau inni ein pechodau, oherwydd yr ydym ninnau yn maddau i bob un sy’n troseddu yn ein herbyn; a phaid â’n dwyn i brawf.’”
Yna meddai wrthynt, “Pe bai un ohonoch yn mynd at gyfaill ganol nos ac yn dweud wrtho, ‘Gyfaill, rho fenthyg tair torth imi, oherwydd y mae cyfaill imi wedi cyrraedd acw ar ôl taith, ac nid oes gennyf ddim i’w osod o’i flaen’; a phe bai yntau yn ateb o’r tu mewn, ‘Paid â’m blino; y mae’r drws erbyn hyn wedi ei folltio, a’m plant gyda mi yn y gwely; ni allaf godi i roi dim iti’, rwy’n dweud wrthych, hyd yn oed os gwrthyd ef godi a rhoi rhywbeth iddo o achos eu cyfeillgarwch, eto oherwydd ei daerni digywilydd fe fydd yn codi ac yn rhoi iddo gymaint ag sydd arno ei eisiau.
Ac yr wyf fi’n dweud wrthych: gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, ac fe agorir i chwi. Oherwydd y mae pawb sy’n gofyn yn derbyn, a’r sawl sy’n ceisio yn cael, ac i’r un sy’n curo agorir y drws. Os bydd mab un ohonoch yn gofyn i’w dad am bysgodyn, a rydd ef iddo sarff yn lle pysgodyn? Neu os bydd yn gofyn am wy, a rydd ef iddo ysgorpion? Am hynny, os ydych chwi, sy’n ddrwg, yn medru rhoi rhoddion da i’ch plant, gymaint mwy y rhydd y Tad nefol yr Ysbryd Glân i’r rhai sy’n gofyn ganddo.”
Luc 11. 1-13
Myfyrdodau gan Ganon Tim Hewitt ar Weddi’r Arglwydd
Mae dau fersiwn o Weddi’r Arglwydd gyda ni heddiw – un yn ein darlleniadau ac un nes ymlaen yn ein gwasanaeth. Y peth cyntaf sydd yn dod i mewn i’n meddyliau efallai yw’r ffaith eu bod nhw’n wahanol a mae’r cwestiwn yn codi pam? Fel dw i wedi esbonio’n ddiweddar wrth i ni deithio trwy’r Efengyl yn ôl Sant Luc, mae Sant Luc yn ysgrifennu ei Efengyl achos yr oedd ei amgylchiadau’n gwbl wahanol i Mathew, Marc ac Ioan. Doedd Luc ddim yn un o’r Deuddeg neu un o ddilynwyr Iesu yn ystod ei weinidogaeth. Roedd Sant Luc wedi mynd yn gristion blynyddoedd ar ôl yr amseroedd hyn, ac wrth iddo fe gasglu straeon am Iesu, doedd pob manylyn a ffaith ddim yn eglur. Hefyd, mae hi’n bosibl i ni anghofio sut wahanol oedd y byd ar y pryd. Os ydyn ni eisiau wybod rhywbeth heddiw, mae hi’n bosibl i ni chwilio ar y we gyda’r ffon symudol ar unwaith. Dim ond ychydig o ddegawdau’n ôl, os oedd eisiau arnom wybod rhywbeth, byddai eisiau arnom fynd i’r llyfrgell neu edrych trwy lyfrau ar gartref, yn gobeithio ein bod ni’n ffeindio’r atebion.
Dyna sut ysgrifennodd rhywun fel Sant Luc ei Efengyl. Heddiw, gwelwn fanylion ysgrifenedig ar lein ar unwaith, a thra oedd pobl yn ysgrifennu pethau yn ystod amser Iesu, roedd llawer o bethau’n cael ei drosglwyddo gan air gwefus, fel dyn ni’n dweud. Yn gloi, dechreuodd pobl gasglu geiriau Iesu, ac wrth i ni edrych ar pob Efengyl, mae hi’n amlwg yr oedd casgliadau o ddysgeidiaeth Iesu’n bresennol ym mywyd y disgyblion cyntaf. Efallai bod dau fersiwn o Weddi’r Arglwydd yn adlewyrchu datblygiad bywyd yr Eglwys o’r dechreuad, lle yr oedd y credinwyr cyntaf yn Iesu’n ffeindio eu ffordd wrth iddynt geisio cerdded ar hyd y ffordd fel Pobl y Ffordd, fel mae Actau’r Apostolion yn eu disgrifio. Roedd ffordd neu fodd gyda’r credinwyr cyntaf o weld pethau, ac wrth i ni feddwl am Weddi’r Arglwydd, gwelwn sut mae beth sydd yn cael ei sôn yn Ngweddi’r Arglwydd yn disgrifio’r ffordd ein bod ni’n gweld bywyd a nid gofyn am amrywiaeth o bethau’n unig. Mae’r ffordd ein bod ni’n gweld bywyd yn ffurfio beth sydd yn ein gweddïau fel canlyniad.
Rhywbeth arall sydd yn edrych ym ddieithr iawn i ni efallai, ar ben gweld dau fersiwn Gweddi’r Arglwydd a nid dim ond un yn yr Efengylau, yw’r ffaith mai’r disgyblion yn gofyn iddynt ddysgu sut mae gweddïo. Roeddent yn Iddewon ffyddlon, yn gyfarwydd iawn gyda gweddi a sut mae gweddïo fel Iddewon ffyddlon. Unwaith eto, gallen ni ofyn, ‘beth sydd yn mynd ymlaen yma?’ Mae rhyw fath o ateb gyda ni achos bod y disgyblion wedi sylwi bod dilynwyr Sant Ioan Fedyddiwr wedi cael eu hyfforddi am sut mae gweddïo ganddo. Yma, dychwelwn at beth ddywedais ar gyfer y credinwyr cyntaf yn ffeindio eu ffordd ar hyd ffordd newydd o fyw. Roedd rhywbeth yn wahanol am beth ddywedodd Sant Ioan Fedyddiwr; roedd rywbeth yn wahanol gyda dysgeidiaeth Iesu. Efallai yr oedd dilynwyr Ioan a dilynwyr Iesu wedi gweld yr oedd eisiau arnynt weddïo nawr mewn modd a oedd yn wahanol i’r gorffennol.
Roedd yr un fath o gwestiwn gyda’r Cristnogion cyntaf ym mywyd yr Eglwys Fore yn y blynyddoedd ar ôl amser Iesu. Erbyn yr amser yr ysgrifennodd Sant Luc ei Efengyl, yr oedd Iesu wedi dychwelwyd at y Nefoedd am nifer o flynyddoedd. Yn ystod ei weinidogaeth, roedd ei ddisgyblion wedi gweddïo dros ddyfodiad y Deyrnas. Roedd Iesu wedi marw ar y Groes ac atgyfodi, ac wedi mynd i’r nefoedd i addewid dyfodiad yr Ysbryd Glân fynd yn wir. Maen nhw’n aros am Iesu iddo ddychwelyd. Beth mae gweddïo dros ddyfodiad y Deyrnas yn ei olygu iddynt? Beth mae gweddïo dros ddyfodiad y Deyrnas yn ei olygu i’r Cristnogion cyntaf a wynebodd erledigaeth? Gallen ni ofyn yr un fath o gwestiwn wrthi ni edrych ar y pethau sydd wedi digwydd ym mywydau Cristnogion ac yn hanes y byd trwy’r canrifoedd ac heddiw hyd yn oed, pan welwn beth sydd yn digwydd yn y byd.
Byddai llawer o bobl yn dweud pan welwn yr anghenion o’n cwmpas ni, dylen ni weddïo. Byddai neb yn anghytuno gydag hwn yn ei hun, ond ambell waith, mae’r rhai sydd yn dweud y dylen ni weddïo’n dweud hwn achos eu bod nhw’n teimlo does neb wedi siarad am weddïo wrth i ni feddwl am yr anghenion sydd o’n cwmpas ni. Yn ei dro, byddai eraill yn dweud, ydyn, dyn ni yn gweddïo, dyn ni wedi gweddïo’n ffyddlon, ond y cwestiwn sydd ddim wedi cael ei ofyn neu ei ateb yw, gweddïo dros beth ac am ba fath o resymau? Y tu hwnt i ni ddweud bod gweddïo a gweddïo, byddai rhai’n dweud mae gweddïo a gweddïo fel Cristnogion. Dros beth ydy Cristnogion yn gweddïo? Am ba fath o resymau ydy Cristnogion yn gweddïo dros y pethau y maen nhw’n eu gweddïo drosto?
Fel Cristnogion heddiw, awn ni at Iesu gyda’r un cais: ‘Arglwydd, dysg i ni weddïo.’ Mae gwahanol ffyrdd i ni weld Gweddi’r Arglwydd ar wahân i ni ddweud bod Iesu ei hun wedi ein hyfforddi sut mae gweddïo. Mae Gweddi’r Arglwydd yn achosi i ni ofyn cwestiynau am ba fath o bethau sydd yn ein gweddïau. Ydy ein gweddïau’n ceisio dyfodiad Teyrnas Dduw neu ein dymuniadau? Yn ein gweddïau ydyn ni’n ceisio trin eraill yn y modd yr hoffen ni gael trin wrth i ni feddwl am faddeuant er enghraifft? Ydyn ni’n gweddïo’n unig dros y pethau sydd yn angenrheidiol i fywyd beunyddiol neu dros lawer mwy gan feddwl am ein bara beunyddiol? Dyn ni’n arfer rhannu Gweddi’r arglwydd i mewn i nifer o wersi ar gyfer gweddi gan feddwl am bob llinell yr weddi.
Er hynny, mae Gweddi’r Arglwydd yn ein hyfforddi i ni weddïo mewn modd arall os ydyn ni’n gallu gweld y syniad sydd yn rhedeg trwy’r holl weddi, ai yn ngeiriau Sant Luc yn ein darlleniad heddiw neu yn yr weddi sydd yn cael ei hadrodd nes ymlaen yn ein gwasanaeth. Gallaf weld syniad sydd yn rhedeg trwy’r holl weddi. Efallai bod nifer o syniadau, pe basen ni’n rhannu ein meddyliau am Weddi’r Arglwydd. Y syniad sydd yn fy meddwl i yw syniad perthynas: Sut mae Gweddi’r Arglwydd yn gofyn i ni feddwl am y perthynas rhwng bobl a phethau a sut mae gwahanol bobl a gwahanol bethau’n perthyn i’w gilydd. Mewn ffordd, mae hwn yn amlwg, achos bod Gweddi’r Arglwydd yn dechrau gan siarad am Dduw fel ein Tad, perthynas sydd yn unigryw. Wedyn, nes ymlaen, gweddïwn am faddeuant, rhywbeth arall sydd yn perthyn i berthnasau. Tra bod y rhain yn eglur, efallai bod syniad perthynas ddim mor eglur yn y pethau eraill yn yr weddi, ond maen nhw’n yno.
Er enghraifft, gweddïwn dros fara beunyddiol. Mae bara’n rywbeth sydd yn syml, sydd yn siarad am anghenion sylfaenol. Er hynny, yn ei hun, bara yn symbol sut mae gwahanol bethau’n perthyn i’w gilydd. Mae rhaid i chi gael pethau fel blawd, dŵr, surdoes, halen ac efallai pethau eraill yn gweithio gyda’i gilydd. Mae bara’n symbol am sut mae hi’n amhosibl i ni gael un peth heb pethau eraill yn chwarae eu rhan hefyd. Wrth i ni weddïo dros bobl sydd yn newynu yn ein byd heddiw, gwelwn fod eisiau arnom feddwl am a gweddïo dros bethau fel heddwch a chyfiawnder a rhyddid ar wahân i fara. Pan weddïwn dros rywbeth yn arbennig, neu rywun yn arbennig, ydyn ni’n meddwl am beth am sut mae un peth yn perthyn i nifer o bethau eraill, am sut mae unigolyn yn perthyn i lawer o bobl eraill? Pe basen ni’n gwneud hwn, dysgwn sut mae gweddïo mewn modd a ddysgodd Iesu i ni weddïo.
Ymbiliau
Yn nerth yr Ysbryd, ac yn un â Christ Iesu, gweddïwn ar y Tad.
Arglwydd trugarog, gweddïwn drosom ein hunain a thros bob Cristion, ar inni fod yn offeiriadaeth frenhinol, yn bobl sanctaidd, er mawl i Grist Iesu ein Gwaredwr. Yn y Cymundeb Anglicanaidd, gweddïwn dros Eglwys Anglicanaidd Papua New Guinea.
Arglwydd, yn dy drugaredd,
Gwrando ein gweddi.
Gweddïwn dros John ein hesgob, a thros yr holl esgobion a gweinidogion eraill, ar iddynt barhau’n ffyddlon i’w galwedigaeth a chyhoeddi gair y gwirionedd yn gymwys. Yn ein Hesgobaeth, gweddïwn dros y Darllenwr Lleyg ym Mro Penderi.
Arglwydd, yn dy drugaredd,
Gwrando ein gweddi.
Gweddïwn dros blant a phobl ifainc a phawb sy’n newydd yn y Ffydd. Arwain a chyfarwydda hwy yn y ffordd sy’n arwain atat ti. Gweddïwn dros y rhai sydd yn ymbaratoi am conffirmasiwn yn y misoedd ymlaen. Rho dy ras i bawb sydd yn dysgu sut mae gweddïo ac i’r sydd yn ffeindio teimladau’n anodd iddynt fynegi mewn geiriau.
Arglwydd, yn dy drugaredd,
Gwrando ein gweddi.
Gweddïwn dros Charles ein Brenin, a thros bawb sy’n gyfrifol am lywodraethu’r genedl hon a phob cenedl arall, fel y gall dy bobl lawenhau yn dy roddion o wir gyfiawnder a thangnefedd. Cofiwn bobl Wcrain. Boed i’r rhai sydd yn cynnal swyddi cyfrifoldeb a dylanwad weithio er lles bawb.
Arglwydd, yn dy drugaredd,
Gwrando ein gweddi.
Gweddïwn dros bobl y genedl hon, gan ofyn iti drugarhau wrth bob un ohonynt. Diolchwn i ti am y cyfle i ni fwynhau gwyliau ac amser gyda’n ffrindiau a’n teuluoedd, i ni gyd gael ein hadnewyddu mewn nerth corfforol, meddyliol ac ysbrydol.
Arglwydd, yn dy drugaredd,
Gwrando ein gweddi.
Gweddïwn dros y rhai sy’n glaf neu mewn unrhyw fath o drallod, ar i ti eu hachub a’u cadw yn dy gariad. Gweddïwn dros waith yr ysbytai yn ein hardal a thros y rhai sydd yn darparu gofal cymdeithasol.
Arglwydd, yn dy drugaredd,
Gwrando ein gweddi.
Gweddïwn dros y rhai sy’n dioddef oherwydd pechod a thros y rhai sy’n gweini arnynt, ar i ti fod yn gymorth ac yn amddiffynfa iddynt. Gweddïwn dros waith elusennau’n gweithio gyda rhai sydd mewn angen y mwyaf yn ein byd heddiw oherwydd creulondeb dynol a chroestyniad.
Arglwydd, yn dy drugaredd,
Gwrando ein gweddi.
Gweddïwn ar inni oll gael ein hatgyfnerthu yn ein ffydd a’n cariad a’n gwasanaeth. Cynorthwya i ni gofio sut dyn ni’n gallu gwneud gwahaniaeth i’n byd yn lleol neu’n rhyngwladol, ai yn mhethau bychain bywyd neu ar raddfa fwy trwy ein dewisiadau personol.
Arglwydd, yn dy drugaredd,
Gwrando ein gweddi.
Gweddïwn dros y ffyddloniaid ymadawedig, a chyflwynwn hwy i’th ofal tragwyddol. Rhown ddiolch am y rhai sydd wedi cynorthwyo i ni weld sut mae bywyd yn dragwyddol a sut dy gariad yn ddi-baid.
Arglwydd, yn dy drugaredd,
Gwrando ein gweddi.
Cyflwynwn ein hunain, cyflwynwn ein gilydd, a chyflwynwn ein bywyd oll i ti, Arglwydd Dduw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Dad trugarog,
Derbyn y gweddïau hyn er mwyn dy Fab ein Hiachawdwr Iesu Grist.